Amdanom

Cafodd Diod ei sefydlu ym mis Gorffennaf 2021 gan Lisa Jones. Ar ôl bod yn siarad am redeg busnes yn y dref yr oedden nhw’n byw ynddi, a hynny am nifer o flynyddoedd, daeth y cyfle ar ddiwedd 2020 pan ddaeth ei heiddo manwerthu ar gael. Dechreuodd y gwaith ar ddechrau 2021 i drawsnewid yr adeilad a oedd yn siop, i fod yn siop goffi, gan ddechrau trwy weithio gyda’r cwmni dylunio mewnol o Aberystwyth, Design House Wales, i greu’r naws Sgandi-Gymreig y gallwch ei mwynhau heddiw.

Y weledigaeth oedd creu siop goffi wirioneddol Gymreig yng nghanol Llandeilo, lle byddai cwsmeriaid yn gallu mwynhau coffi gwych, cacennau a bwyd gwych mewn awyrgylch hamddenol a modern. Ystyriwyd popeth yn ofalus, o sut olwg a fyddai ar y lle, i’r brandio, a hyd yn oed pa gwpanau coffi i’w defnyddio, ac ym mis Gorffennaf 2021, roedd Diod yn barod, o’r diwedd, i agor ei ddrysau.

Erbyn heddiw, mae Diod yn rhywle y byddwch yn cael croeso cynnes Cymreig, lle mae 90% o’r staff yn siarad Cymraeg. Mae Diod, sy’n canolbwyntio ar goffi, cacennau a chiniawau ysgafn o ansawdd da, yn agored chwe diwrnod yr wythnos, ac, yn ogystal â bod yn siop goffi, mae hefyd yn siop win lle gallwch yfed gwin ar y safle neu fynd ag ef adref.

Mae Diod hefyd yn trefnu digwyddiadau achlysurol gyda’r nos, gan gynnwys nosweithiau swshi, coctels a chanapés, nosweithiau pori, a mwy. Cadwch olwg ar y dudalen hon i gael gwybodaeth am ragor o ddigwyddiadau yn y dyfodol.