Arlwyo ar gyfer Bwffes

Yn trefnu digwyddiad, parti neu gyfarfod? Beth am adael i Diod ofalu am yr arlwyo. Mae gennym nifer o opsiynau penodol i ddewis ohonynt neu rydym yn hapus i weithio gyda chi i gyllideb i greu cynnig pwrpasol. Gall enghreifftiau o fwffes gynnwys Byrddau Bwyd Pigo, Bwffes Bys a Bawd, Platiau Baguettes, Bocsys Cinio Unigol, Bocsys Tê Prynhawn, Platiau Brecwast a mwy. Gellir darparu ar gyfer gofynion deietegol hefyd.

Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth dosbarthu lleol am ddim i Landeilo a gallwn ddosbarthu o fewn radiws o 10 milltir am dâl bach. Cysylltwch â ni trwy post@diod.cymru i gael rhagor o wybodaeth.

Bocsys Picnic Diod 

Mae ein bocsys picnic yn cynnwys

  • Bagét wedi llenwi
  • Bwyd Sawrys
  • Darn o gacen
  • Creision
  • Diod Meddal neu Gwin

Bocsys Te Prynhawn

Mae ein Bocsys Te Prynhawn yn cynnwys

  • Brechdannau
  • Bwyd Sawrys
  • Sgon gyda jam a hufen
  • Dewis o Gacennau

Cysylltwch gyda ni ar post@diod.cymru neu 01558 824023 am fwy o wybodaeth ac am prisiau.