Llogi Preifat

Yn chwilio am leoliad ar gyfer dathliad neu i ddod at eich gilydd? Gall Diod gael ei logi’n breifat ar gyfer amrywiaeth o ddigwyddiadau gan gynnwys Penblwyddi, Dathliadau, Digwyddiadau Corfforaethol, Partïon Staff a mwy. Mae gennym le i rhwng 25 a 30 o bobl (yn dibynnu ar y gofynion), a gallwn ddarparu gwasanaeth arlwyo sy’n cynnwys byrddau charcuterie, bwffes, canapés, platiau a mwy. Mae ein dewis helaeth o win a chwrw hefyd ar gael a gallwn gynnig bwydlen coctels bwrpasol ar gyfer eich digwyddiad. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am ein gofod a’r dyddiadau sydd ar gael, yna anfonwch neges e-bost atom post@diod.cymru